Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddan nhw’n asesu’r effaith y bydd eu polisïau gwledig newydd yn ei gael ar y Gymraeg o “fewn y misoedd nesaf”.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn pryderon gan Gymdeithas yr Iaith y gall newidiadau i system daliadau’r diwydiant amaeth arwain at farwolaeth yr iaith Gymraeg yng nghefn ngwlad.
Yn ôl cyfrifiad 2011 mae 40% o weithwyr o fewn y diwydiant yn siarad Cymraeg, sef y canran uchaf mewn unrhyw ddiwydiant arall yng Nghymru.
“Fe fyddwn i’n sicr yn cynnal asesiad effaith mewn cyswllt a’r iaith Gymraeg o fewn y misoedd nesaf cyn cyflwyno’r Papur Gwyn,” meddai’r Ysgrifennydd tros Faterion Amaeth, Lesley Griffiths, yn Siambr y Cynulliad ddoe (dydd Mercher, Tachwedd 7).
“Mae’r iaith Gymraeg fwy na thebyg yn cael ei defnyddio mwy yn y sector amaethyddol nag yn unrhyw sector arall yng Nghymru, a dw i’n meddwl mai un o’r ffyrdd gorau i adfer yr iaith yw trwy gadw ffermwyr ar ein tiroedd.”
Newidiadau
Bwriad Llywodraeth Cymru yw dod â system y Taliad Sylfaenol, sy’n talu ffermwyr yn uniongyrchol yn dibynnu faint o dir sydd ganddyn nhw, i ben.
Yn ei lle, maen nhw’n gobeithio cyflwyno dau gynllun newydd erbyn y flwyddyn 2025, gyda’r naill yn system o grantiau busnes a’r llall yn gronfa fydd yn gwobrwyo ffermwyr am wella’r amgylchedd.
Cafodd yr ymgynghoriad ‘Brexit a’n Tir’ ei gynnal yn ystod yr haf, gan roi cyfle i ffermwyr ymateb i’r cynlluniau arfaethedig.