Mae draenogod a gwiwerod coch dan fygythiad er gwaethaf ymdrechion mawr i’w hachub, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw.

Mae’n bosib mai Ynys Môn fydd un o’r unig lefydd ym Mhrydain lle y bydd gwiwerod coch yn goroesi, meddai’r awduron.

Mae’r adroddiad yn manylu ar hynt a helynt mamaliaid y Deyrnas Unedig dros y ddegawd ddiwethaf, gan ddangos fod ambell i lwyddiant wedi bod.

Mae’r dyfrgi, a oedd ar fin diflannu ddegawd yn ôl, bellach yn ffynnu mewn sawl cwr o Ynysoedd Prydain.

Tua hanner yr un peth

Yn ôl adroddiad Cyflwr Mamaliaid Prydain 2011, sydd wedi ei gynhyrchu gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Rhydychen, mae poblogaethau tua hanner y 25 mamal yn yr arolwg wedi aros yr un fath neu wedi tyfu.

Ond mae ambell i rywogaeth gan gynnwys gwiwerod coch, cathod gwyllt yr Alban, llygod y dŵr, ysgyfarnogod y mynyddoedd a draenogod mewn trafferthion.

Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu ceisio dod ag ambell i rywogaeth fu unwaith yn gyffredin ym Mhrydain, gan gynnwys afancod a’r lyncs, yn ôl.

“Mae yna sawl llwyddiant mawr wedi bod,” meddai awdur yr adroddiad, yr Athro David Macdonald. “Mae dyfrgwn wedi ffynnu mewn afonydd glanach, ac mae ffwlbartiaid hefyd wedi dychwelyd. Fe ddylen ni hefyd fod yn ystyried ailgyflwyno afancod i Gymru a Lloegr yn y dyfodol agos iawn.

“Rydyn ni’n disgwyl y bydd gwiwerod coch yn bod ar ambell ynys yn unig, gan gynnwys Ynys Môn ac Ynys Wyth, neu yn Ucheldiroedd yr Alban.”

Draenogod – 20 gwaith yn brinnach

Mae poblogaeth y gwiwerod coch wedi ei difrodi gan ddyfodiad y gwiwerod llwyd, sy’n cystadlu am fwyd ac yn cario afiechydon marwol.

Mae nifer y draenogod ym Mhrydain hefyd wedi syrthio, o tua 30 miliwn yn y 50au i 1.5 miliwn heddiw.

“Mae nifer y draenogod, yn enwedig ar dir amaethyddol, wedi syrthio yn sylweddol,” meddai David Macdonald.