Mae bwriad ar droed i adnewyddu murlun enwog yr artist Ed Povey yng nghanol tref Caernarfon.
Cafodd y murlun, sydd ar wal adeilad ger llyfrgell y dref, ei baentio gan yr artist enwog bron ddeugain mlynedd yn ôl er mwyn dathlu dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol i’r ardal yn 1979.
Mae’n cynnwys agweddau ar hanes Caernarfon a’r ardal gyfagos, gan gynnwys milwyr Rhufeinig, David Lloyd George a Thri Penyberth.
Cafodd murluniau tebyg eu creu gan yr un artist, sydd bellach yn byw yn yr Unol Daleithiau, ar adeiladau ledled Cymru yn ystod yr 1970au a’r 1980au, gan gynnwys rhai ym Mangor, Porthaethwy a Phorthmadog.
“Eiconig”
Mae Hwb Caernarfon yn gorff sy’n gyfrifol am nifer o brosiectau adnewyddu o gwmpas tref Caernarfon.
Dywed Gavin Owen, rheolwr y corff cymunedol, mai’r nod hirdymor yw creu gwefan a chynllun marchnata a fydd yn fodd o ddenu twristiaid i’r dref.
Ond cyn hynny, meddai, mae angen “make over” arni, gyda’r gwaith o adfer murlun enwog Ed Povey ymhlith y diweddaraf o’r prosiectau.
“Y big picture ydy mynd â Chaernarfon allan i’r farchnad a thynnu twristiaid i fewn,” meddai wrth golwg360.
“Mae’r mural yn beth eiconig o’r dref, ac yn y cyflwr mae o ynddo, mae’n dangos faint mor run down ydy Caernarfon.”
Bydd Hwb Caernarfon yn cydweithio â grŵp lleol o artistiaid o’r enw CARN er mwyn cyflawni’r gwaith adnewyddu, ac mae disgwyl iddo gostio rhwng £3,000 a £4,000, meddai Gavin Owen ymhellach.
“Cyflwr truenus”
Yn ôl y cerddor a’r archeolegydd, Rhys Mwyn, sy’n cynnal teithiau hanesyddol yn aml o gwmpas Caernarfon, mae’r murlun wedi gweld “dirywiad” dros y blynyddoedd.
Prin tair blynedd wedi iddo gael ei greu, meddai, cafodd llyfrgell y dref ei adeiladu dros y rhan ohono a oedd yn cynnwys darlun o fysus yn cyrraedd tref Caernarfon adeg y Brifwyl yn 1979.
“Pan fydda i’n gwneud teithiau cerdded, dw i’n edrych ar y murlun ac yn crybwyll wrth bobol y piti yma ei fod mewn cyflwr mor druenus,” meddai Rhys Mwyn wrth golwg360.
“Y cwestiwn amlwg ydy, a ydan nhw’n gallu gwneud gwaith cadwraeth arno fo? Oherwydd dw i ddim yn siŵr iawn beth y gallet ti ei wneud efo paent sy’n dod yn rhydd o’r wal.
“Ond fel arall, petaen nhw’n ei dwtio fo neu ei ail-baentio, fe fysan nhw’n cadw’r un llun wedyn.”