Mae ymdrechion ar y gweill i godi cofeb i Niclas y Glais i nodi 140 mlynedd ers iddo gael ei eni ym Mhentregalar yn Sir Benfro.
Mae Pwyllgor Codi Cofeb Niclas y Glais yn gobeithio gosod y gofeb ar dir comin Crugiau Dwy uwchlaw ei hen gartref ar Hydref 5 y flwyddyn nesaf, i gyd-daro â diwrnod ei ben-blwydd drannoeth.
Bydd plac yn nodi ei enw, E. Nicholas, a blynyddoedd ei fywyd, 1879-1971, gan egluro ei fod yn “fardd, Comiwnydd a Christion”, ac mai “Bardd y Werin ydwyf fi”.
Bywyd a gyrfa
Cafodd Thomas Evan Nicholas ei fagu yn nhyddyn Y Llety ym Mhentregalar, ond roedd yn adnabyddus fel Niclas y Glais, ac yntau wedi bod yn weinidog ym mhentre’r Glais yng Nghwm Tawe am ddeng mlynedd.
Cafodd ei addysg yn Academi’r Gwynfryn yn Rhydaman i’w baratoi ar gyfer y weinidogaeth.
Fe fu’n weinidog yn Llandeilo, Wisconsin a Llanddewi, cyn mynd yn ddeintydd i Aberystwyth ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Fel bardd, roedd ei waith cynnar yn canolbwyntio ar Sosialaeth a lles y werin, ac yntau wedi bod yn cydweithio â Keir Hardie.
Cafodd ei garcharu yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac yntau’n weithgar gyda’r No-Conscription Fellowship. Fe fu’n barddoni yn y carchar, gan gyhoeddi dwy gyfrol o sonedau’n ddiweddarach.
Roedd yn feirniadol o’r Frenhiniaeth a chyfalafiaeth, ac roedd yn cael ei ystyried yn llefarydd Cymraeg Comiwnyddiaeth, gwleidyddiaeth y daeth iddi yn sgil profiadau plentyndod o ormes landlordiaeth.
Fe ddaeth yn Gristion ar ôl clywed gwreigen mewn tyddyn yn sgwrsio â Duw. Ar dir y tyddyn hwn y cafodd ei lwch eu gwasgaru.
Ymgyrch codi arian
Er mwyn codi’r gofeb, fe fydd cost ynghlwm wrth gludo’r garreg, ei gosod yn ei lle, llunio a gosod placiau ac anfon cais cynllunio at Adran Gynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Penfro.
Gobaith yr ymgyrchwyr yw codi £3,000 at y gwaith drwy gronfa sy’n cael ei gweinyddu gan Gymdeithas Cwm Cerwyn yn ardal Mynachlog-ddu, ac maen nhw eisoes wedi codi dros £500.