Shane Williams
Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi dweud ei fod yn bosib na fydd yr asgellwr Shane Williams ar gael i Gymru ar gyfer y gêm yn erbyn Ffiji.

Fe allai fod allan am “ychydig wythnosau” ar ôl anafu cyhyr yn ei goes, meddai.

“Rydyn ni’n credu ei fod wedi ei anafu wrth chwarae De Affrica. Roedden ni wedi meddwl nad oedd yn ddifrifol a dyna pam ei fod wedi chwarae yn erbyn Samoa.”

Mae Shane Williams wedi awgrymu y gallai ymddeol ar ôl Cwpan Rygbi’r Byd, ond fe fydd y tîm yn awyddus i sicrhau nad y gêm yn erbyn Samoa fydd yr olaf iddo yn y crys coch.

Achubodd y dydd yn y gêm honno â’i 55fed cais i Gymru, gan sicrhau buddugoliaeth 17 – 10 yn erbyn y tîm o ynysoedd y Môr Tawel.

Mae James Hook a Dan Lydiate eisoes wedi eu hanafu ac ni fydd yr un ohonyn nhw ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Namibia ddydd Llun a Ffiji ddydd Sul yr wythnos nesaf.

Os yw Cymru’n ennill y gemau rheini bydd y tri yn wynebu brwydr i fod yn holliach cyn y gêm tebygol yn erbyn Iwerddon yn rownd yr wyth olaf.