Mae disgwyl i’r maswr bytholwyrdd Stephen Jones ennill cap rhif 101 yn erbyn Namibia ddydd Llun, a churo record Gareth Thomas am y nifer o ymddangosiadau dros ei wlad.

Roedd disgwyl iddo guro’r record yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Lloegr yn Twickenham saith wythnos yn ôl, ond rhyw ddeng munud cyn y gêm cafodd anaf i’w goes a gorfod ildio’i le i Rhys Priestland.

Ar hyn o bryd mae Stephen Jones ar 100 o gapiau, fel Gareth Thomas, ond mae disgwyl iddo gychwyn y gêm yn erbyn Namibia, ynghyd â llu o chwaraewyr gwahanol i’r tîm gurodd Samoa.

“Os mai dyna fydd, mi wna i edrych ymlaen ato,” meddai Stephen Jones.

“Rydw i wrth fy modd yn hyfforddi gyda’r bois hyn eto – rydach chi’n teimlo’n rhan o’r garfan. Mae’r feib yn dda a rydan ni’n chwilio am berfformiad da yn erbyn Namibia.”