Leigh Halfpenny
Gall Leigh Halfpenny fod yn eitha’ sicr y daw ei gyfle i gychwyn gêm yn erbyn Namibia ddydd Llun, ond bydd angen aros nes yfory i Warren Gatland ddatgelu ai ar yr asgell neu yn safle’r cefnwr y bydd y gwibiwr ifanc yn chwarae.

Cafodd y dyn 22 oed ei frolio’n hael gan hyfforddwyr Cymru ar ôl gwrth-ymosod a chreu cais i Shane Williams yn erbyn Samoa, ar adeg pan oedd Cymru’n edrych fel colli’r gêm.

“Roedd yn wych cael camu i’r cae yn erbyn Samoa, ac roedd chwarae yn safle’r cefnwr ar y lefel rhyngwladol yn rhywbeth gwahanol i mi,” meddai Halfpenny.

“Roeddwn yn teimlo’n gyfforddus ac fe wnes i fwynhau chwarae yn y safle. Roeddwn i’n falch gyda sut yr aeth hi.”

Dim ond o drwch blewyn y llwyddodd Halfpenny i gael ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd, ar ôl diodde’ anaf i’w ffêr a chael llawdriniaeth.

“Roedd meddwl na fyddwn yn holliach ar gyfer Cwpan y Byd yn troi fy stumog,” meddai.

“Mae wedi cymryd llwyth o waith caled ac mae wedi bod yn her anferth i fod yma.”

Gyda James Hook wedi ei anafu mae darogan mai Leigh Halfpenny fydd yn safle’r cefnwr, ond mae Lee Byrne hefyd yn opsiwn.

“Mae’r gystadleuaeth am lefydd yn y tîm yn ffyrnig iawn,” meddai Halfpenny.

“Mae pawb yn gwthio’i gilydd ac yn cadw’i gilydd ar flaenau’i traed. Rhaid perfformio’n dda, neu mae wastad chwaraewr arall ar gael i gamu mewn.”