Mae gan ymosodwr Llanelli Rhys Griffiths gyfle i greu hanes heno: sgorio tair gôl mewn tair gêm yn olynol pan fydd Llanelli yn herio Port  Talbot ar Barc Stebonheath.

Yn ei ddwy gêm flaenorol mae wedi sgorio hat-trics i Lanelli yn erbyn y Drenewydd a’r Bala.

O rwydo tair eto heno, Rhys Griffiths fyddai’r chwaraewr cyntaf yng Nghynghrair Cymru a Phrydain i gyflawni‘r camp.

 “Dw i ddim yn meddwl am y record o gwbl, y triphwynt sy’n bwysig,” meddai.

“O’r  blaen fe wnes i sgorio dwy, pedair a thair gôl mewn gemau’n olynol, ond mae’r sylw rŵan oherwydd roedd [Wayne] Rooney bron a’i wneud y tymor yma.”

 “Mi fydd yn gêm galed heno, mae Port Talbot yn gyn-glwb i mi, a gen i lot o barch iddyn nhw a’u rheolwr Marc Jones. Felly os wneith o ddigwydd, grêt. Ond buddugoliaeth sy’n hollbwysig heno.”