Yfory fe fydd Airbus UK yn croesawu’r Seintiau Newydd yng ngêm fyw Sgorio ar S4C, gyda’r cyn-bencampwyr ar rediad clodwiw.

Daw Airbus i’r ornest ar gefn gêm gyfartal yn erbyn Aberystwyth, tra bo’r Seintiau Newydd wedi curo Lido Afan 3-0 ac yn gorwedd ar frig yr Uwch Gynghrair.

 Airbus: angen buddugoliaeth

 Mae Airbus UK wedi cael dechreuad braidd yn sigledig i’r tymor.  Gyda phump gêm gyfartal dan y belt, mae nhw eto i guro na cholli.

 O feddwl bod Airbus UK wedi bod yn brysur trwy gydol yr haf yn prynu chwaraewyr, does dim llawer wedi newid.

 ‘‘Roeddwn yn hapus iawn wrth dynnu gôl yn ôl yn erbyn Aberystwyth yr wythnos dwethaf,” meddai Phill Bailey, Ysgrifennydd Cyffredinol y clwb.

“Ond wedi dweud hynny mae’n rhaid i ni ddechrau chwarae o’r eiliad gyntaf hyd nes y diwedd.  Nid penderfynu canolbwyntio yn yr ail hanner.’

 ‘‘Mae’n rhaid bod yn hyderus wrth fynd i fewn i’r gêm ddydd Sadwrn, mae angen buddugoliaeth arnom, er mwyn y chwaraewyr a’r cefnogwyr.

 ‘‘Mae wedi bod yn ddechreuad echrydus i ddweud y gwir, mae angen i’r chwaraewyr ddechrau perfformio.”

Y tro dwethaf i’r ddau dîm yma gwrdd, Y Seintiau Newydd gipiodd y fuddugoliaeth o 2-0.  

Y Seintiau Newydd yn tanio

 Cafodd y Seintiau Newydd fuddugoliaeth gyffyrddus yn erbyn Lido Afan yr wythnos ddiwethaf wrth ennill 3-0.

Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill pum gêm o’r bron, ac yn hyderus o chweched buddugoliaeth yfory.

 Y gêm yn fyw ar Sgorio gyda’r rhaglen i ddechrau am dri y p’nawn.

Rhys Jones