Mae gwasanaeth digidol newydd i ddosbarthu a hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y cyllid i’r cwmni PYST Cyfyngedig yn helpu gyda thwf y gwasanaeth dosbarthu digidol, y gwasanaeth cyntaf o’i fath yng Nghymru sy’n gallu teilwra gwasanaethau’n benodol ar gyfer y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg.
Hefyd, bydd yr arian yn creu swydd asiant archebu cyntaf erioed i Gymru. Bydd y swydd hon yn llenwi bwlch o gynrychioli artistiaid er mwyn cynyddu nifer y perfformiadau ledled y wlad a thu hwnt.
“Mae cerddoriaeth Gymraeg yn datblygu’n gyflym ac mae’n bwysig ein bod ni fel Llywodraeth yn ymateb a cheisio meithrin hynny,” meddai’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas, wrth gyhoeddi’r arian.
“Gyda’r bartneriaeth hon rydym yn cymryd camau i sicrhau bod cerddoriaeth Gymraeg ar gael yn rhwydd ac yn cael ei hyrwyddo’n dda ar bob platfform digidol.
“Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn cynyddu ymwybyddiaeth a phoblogrwydd artistiaid Cymraeg eu hiaith.”
Meddai Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: “Mae Dydd Miwsig Cymru wedi dangos bod diddordeb mewn a brwdfrydedd am gerddoriaeth Gymraeg yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Mae cerddoriaeth yn ffordd ddelfrydol o gyflwyno pobl i’r iaith yn gymdeithasol ac i ddangos bod y Gymraeg yn fyw ac yn ffynnu.
“Rwy’n falch iawn y bydd PYST yn adeiladu ar lwyddiant Dydd Miwsig Cymru ac yn sicrhau bod cerddoriaeth Gymraeg o fewn cyrraedd pawb drwy’r flwyddyn. Bydd ein hymdrechion yma hefyd yn helpu cyflawni’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”
Cerddoriaeth ‘yn hybu’r iaith’
Mae’r hwb ariannol wedi cael ei groesawu’n fawr gan gyd-syflaenydd PYST, Alun Llwyd.
“Ein nod yw creu strwythur sy’n adlewyrchu bywiogrwydd ac egni cerddoriaeth Gymraeg a chreu llwybr i ddatblygu twf fel y gall labeli ac artistiaid nid yn unig gael mwy o lwyddiant ond y bydd mwy ohonynt yn y dyfodol,” meddai.
“Yn dilyn y gwaith cychwynnol sydd wedi’i wneud gan PYST, mae mwy na miliwn wedi ffrydio cerddoriaeth Gymraeg yn 2018 ar ddarparwyr gwasanaethau digidol, sy’n nifer enfawr am iaith leiafrifol – a bydd labeli Cymraeg bellach yn gallu defnyddio’r llwyddiant cychwynnol hwnnw ar lefel genedlaethol.”