Mae artist o Gaerfyrddin sy’n brwydro canser wedi creu fideo am ei stori, yn y gobaith o roi “hwb” i gleifion eraill.
Cerddor oedd Mared Lenny a fu’n teithio’r byd, tan iddi gael ei tharo’n wael gyda thiwmor ar ei hymennydd a hithau’n ddim ond 26 oed ar y pryd.
Collodd ei gallu i greu cerddoriaeth yn sgil llawdriniaeth, a dywedodd doctoriaid bod ganddi flwyddyn a hanner i fyw.
Saith mlynedd yn ddiweddarach mae wedi creu fideo yn sôn am ei brwydr, ac yn esbonio sut y daeth hi’n ‘artist damweiniol’ sy’n paentio lluniau llachar.
‘Swci Boscawen’ oedd ei henw pan yn perfformio cerddoriaeth, ond ers cychwyn creu lluniau mae bellach yn galw ei hun yn ‘Swci Delic’.
“Roedd yna elfennau o fy stori i yr oeddwn i’n teimlo y gallai helpu rhywun arall sy’n mynd trwy’r un peth,” meddai Mared Lenny wrth golwg360.
“Ac roeddwn i’n gobeithio y byddai’n helpu rhywun sydd angen rhyw fath o hwb os ydyn nhw’n mynd trwy ryw fath o driniaeth canser neu beth bynnag.
“Ond roeddwn i hefyd ddim eisiau codi ofn ar bobol sy’n mynd trwy – neu’n mynd i fynd trwy – y driniaeth. Felly roedd angen cael y balans yn ofalus iawn.”
Er bod y fideo yn mynd i’r afael â phwnc tywyll, mae’r sgript ffraeth a throslais ecsentrig y Cerddor, Cate Le Bon, yn dod ag elfen ddigri i’r cyfan.
Mae yna elfen o gomedi du i’r fideo, ac mae Mared Lenny yn esbonio bod comedi a sefyllfaoedd tywyll yn mynd llaw yn llaw.
“Pan ydych yn mynd trwy salwch difrifol fel wnes i, mi synnech chi faint o bobol sy’n troi at gomedi du,” meddai. “Mae’n mynd a nhw’n bell trwy’r peth.”
Artist damweiniol
Yn sgil llawdriniaeth i waredu’r mwyafrif o’r tiwmor o’i hymennydd, collodd Mared Lenny y gallu i greu cerddoriaeth.
Ond, yn annisgwyl iddi, gwnaeth trawma’r llawdriniaeth achosi i’w hymennydd newid, meddai, ac mi ddatblygodd sgiliau artist dros nos.
“Mae’n boncyrs,” meddai. “Roeddwn i’n ganol gwneud albwm pan ddigwyddodd e. Ac es i am lawdriniaeth wnaeth bara am hanner diwrnod.
“Roedd e’n eithafol. Pan ddeffrais i, doeddwn i heb sylweddoli eu bod, mewn ffordd, wedi tynnu allan y gerddoriaeth a hwpo mewn y celf. Mae’n hollol bizarre…
“Es i yn ôl i orffen yr albwm ac roedd popeth wedi mynd. Roedd popeth roeddwn i’n ei wneud fel cerddor jest wedi diflannu.
“Ac wedyn es i drwy gyfnod o alaru tros hynna. Ond gyda’r Celf, teimlais – oce dw i wedi cael bit of a shit deal , ond dw i’n mynd i gymryd hyn a go with it.”
Y caledi
Yn ei fideo, mae Mared Lenny yn egluro bod peth o’r canser dal ynddi.
“Roeddwn i hefyd eisiau cyfleu bod yr her yn un dyddiol,” meddai. “Mae rhai dyddiau mor ddu dw i methu hyd yn oed gweld na siarad o gwbl.
“Ond mae diwrnodau da yn gwneud lan am y dyddiau afiach yna. Dw i yn trio bod yn rhyw fath o mascot i bobol sy’n byw gyda hyn.
“Rydyn ni’n aml yn cofio am bobol sydd wedi colli’u brwydrau â’r salwch afiach yma. Ond rydyn ni’n anghofio’r rhai sydd dal yn brwydro bob dydd.”
Mater teuluol
Roedd creu’r fideo yn “ddewis naturiol”, meddai Mared Lenny, ac roedd yr holl beth yn “dipyn o family affair”.
Ei gŵr, y cerddor Alex Dingley, wnaeth gyfarwyddo a helpu gyda’r sgriptio, a brawd ei chwaer yng nghyfraith, Dyl Goch, wnaeth ei olygu.
Ei brawd, Rhun Lenny o’r band Zabrinski, wnaeth greu’r gân sydd i’w chlywed pan mae Mared Lenny yn sôn am ei phrofiadau yn y peiriant sganio MRI – mae’r gân wedi’i chreu â synau’r peiriant.
Gallwch wylio fideo ‘Yr Artist Damweiniol’ yma…