Mae tros 7,000 o bobol wedi bod i weld ffilmiau yn sinema newydd Galeri Caernarfon ers iddo agor ar Fedi 21.
Y targed oedd denu 500 yr wythnos, ond ar gyfartaledd mae tros 1,000 wedi mynd i weld ffilmiau yn y sinema ddwy sgrin newydd.
Ac mae un ffilm benodol wedi mor boblogaidd nes ei bod yn dychwelyd i Galeri.
Mawr fu’r brolio ar berfformiadau Lady Gaga a Bradley Cooper yn y A Star is Born, ac mae hi yn cael ei dangos eto heno am wythnos gyfan.
Ymysg y ffilmiau eraill sydd wedi eu dangos, mae Johnny English a Bohemian Rhapsody.
Mae’r sinema ar agor saith diwrnod yr wythnos.
“Llwyddiant ysgubol”
Daeth yr actor enwog Rhys Ifans i agor y sinema newydd nôl ym mis Medi, ac ers hynny mae’r rheolwyr yn dweud bod yr wythnosau cyntaf wedi bod yn “llwyddiant ysgubol”.
“Mae poblogrwydd y sinema newydd wedi profi bod angen am adnodd tebyg yn lleol,” meddai Gwyn Roberts, Prif Weithredwr Galeri.
“Mae ein cynulleidfaoedd sinema wedi dod o bob rhan o Wynedd a Môn gyda nifer ohonynt wedi mynychu Galeri am y tro cyntaf erioed. Gobeithio y bydd hyn yn parhau a bydd pobol yr ardal yn dechrau mynd nôl i’r arferiad o fynd i’r sinema yn rheolaidd.”
Be ydy’r lle newydd?
Mae dwy sgrin sinema yn estyniad newydd Galeri, wedi eu gosod mewn dwy ystafell wahanol, gydag un yn ddigon mawr i ddal 119 person, a’r llall yn medru dal 65 o bobol.
Cafodd tua £4m ei wario ar adeiladu’r estyniad.
Daeth £1.8m o’r goffrau Croeso Cymru (corff hyrwyddo twristiaeth Llywodraeth Cymru), £1.5m gan Gyngor Celfyddydau Cymru a £185,000 gan Lywodraeth Cymru, gyda Galeri Caernarfon Cyf yn talu’r gweddill.