Mae dynes 69 oed wedi marw yn yr ysbyty ar ôl cael ei llosgi mewn digwyddiad yn siop sglodion Hermon ger Crymych.
Roedd Mavis Bran yn 69 oed.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 1:30yp ddydd Mawrth diwethaf (Hydref 23), a chafodd y wraig ei chludo i Ysbyty Treforys, lle bu farw’n ddiweddarach.
Mae dyn 70 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad, ond mae bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.
Mae’r ymchwiliad yn parhau.