Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn y nifer o bobol sy’n aros am apwyntiadau dilynol mewn ysbytai yng Nghymru ers 2015.

Yn ôl adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw (Hydref 31) gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Crompton,  mae cynnydd o 12%  wedi bod dros gyfnod o dair blynedd, gyda thua 375,000 o gleifion yn cael eu heffeithio.

Mae’n dangos hefyd bod nifer y cleifion sy’n aros dwywaith mor hir ag y dylent wedi cynyddu 55% i ychydig o dan 200,000.

“Hynod o bryderus”

Yn ôl yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton, mae’r oedi yn golygu nad yw’r rheiny sydd yn fregus ac yn sâl yn cael cymorth, ac felly’n gwneud niwed iddyn nhw.

“Rwy’n credu bod y duedd ddirywiol ynghylch oediadau i apwyntiadau dilynol cleifion allanol yn hynod o bryderus ac mae cleifion yn cael eu rhoi mewn perygl,” meddai.

“Rhaid mynd i’r afael â hyn ledled Cymru ar unwaith.”