Mae rhieni wedi apelio ar i Lywodraeth Cymru ymyrryd er mwyn achub Ysgol Bodffordd yn Ynys Môn – yr ysgol sydd ar frig y rhestr o ysgolion gwledig i gael eu cau.
Yn ôl trigolion pentref Bodffordd, ger Llangefni, fe ddylai’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ymyrryd i achub yr ysgol, ar ôl i Gyngor Môn anwybyddu pedwar ymgynghoriad.
Ddoe (Hydref 30) oedd y diwrnod olaf i bobol gyflwyno gwrthwynebiad i’r hysbysiad statudol i gau’r ysgol.
“Adnodd amhrisiadwy”
Fe achubodd Kirsty Williams Ysgol Llanbedr, sef ysgol cyfrwng Saesneg ger Rhuthun, yr wythos ddiwethaf.
“Dylai’r gweinidog addysg Kirsty Williams ymyrryd i atal y cyngor rhag cau ysgol wledig hollol Gymraeg a llawn, os ydi hi’n barod i achub ysgol wledig Saesneg,” meddai Llinos Roberts, ymgyrchydd a rhiant o Bodffordd.
“Mae’r holl gymuned eisiau cadw’r ysgol ar agor, mae’n adnodd amhrisiadwy i’r gymuned leol ac mae’n ysgol sydd yn orlawn, mae’n ffynnu.”