Mae angen “dathlu amrywiaeth pobol” yn y Gymraeg, yn ôl awdures o Fôn sydd newydd gyhoeddi ei hail nofel hanesyddol.
Mae Siani Flewog gan Ruth Richards yn canolbwyntio ar hanes y pumed Marcwis Môn (Henry Cyril Paget, 1875-1905), y bonheddwr lliwgar o Ynys Môn a hoffai wisgo dillad merched a chynnal cynyrchiadau theatrig.
“Beth mae rhywun yn ei wneud yn fras iawn ydy rhoi llais Cymraeg i syniad ac i agwedd,” meddai’r awdures wrth golwg360.
“Mae Marcwis Môn yn bresenoldeb yn y nofel i gyd, ond beth dw i’n ceisio ei wneud yw olrhain ei ddylanwad ar gymeriadau Cymreig cyffredin.
“Mae’n dod a lliw i’w bywydau nhw. Mae o hefyd yn ehangu eu gorwelion nhw, a gadael iddyn nhw weld nad oes dim rhaid iddyn nhw gael eu diffinio gan gonfensiwn a chan ddisgwyliadau.”
‘Dathlu amrywiaeth’
Daeth Ruth Richards ar draws y Marcwis ar ôl gweld darluniau ohono yn ei gartref ym mhlasdy Plasnewydd, Môn, yn gwisgo dillad a gemwaith crand.
Ar ôl darllen mwy am ei hanes wedyn, daeth i wybod pa mor “annodweddiadol” oedd y gŵr o ran ei ryw, ei gyfnod a’i ddosbarth, a’r ffaith ei fod yn gymaint o “enigma” yn ystod ei oes.
“Dw i’n cofio rhyfeddu bod y fath gymeriad yn byw ar fy stepen drws i yn Sir Fôn, ac yn amlwg mae rhywun yn mynd i feddwl, ‘beth oedd ymateb pobol iddo fo?” meddai.
“Mi roedd cyfoedion y Marcwis – yn y llyfr The Complete Peerage – wedi’i ddarlunio fo yn berson afradlon a gwastraffus nad oedd ei fywyd wedi bod o unrhyw werth i neb.
“Roeddwn i isho herio hynna, i raddau, a deud: ‘wel, na, mi rydan ni isho fymryn o herfeiddiwch; rydan ni isho fymryn o steil ac rydan ni isho dipyn o sparkle yn ein bywydau ni.”
Pwy oedd Henry Cyril Paget?
Roed Henry Cyril Paget yn fab i’r pedwerydd Marcwis Môn a’i ail wraig, Blanche Mary Boyd.
Yn ystod ei oes fer – bu farw yn 29 oed yn 1905 – fe ddaeth yn adnabyddus am ei wario mawr ar bethau crand fel gemwaith, dillad a cheir.
Yn ôl hanes lleol, roedd yn gosod arogl persawr ar egsôst ei gar cyn teithio ar hyd lonydd Môn.
Roedd hefyd yn hoff o gynnal cynyrchiadau dramatig a phantomeimiau, a throdd eglwys Ystâd Plasnewydd yn theatr ar gyfer y dibenion hynny.
Oherwydd ei fywyd lliwgar a’r ffaith iddo ymadael â’i wraig wedi rhai wythnosau o briodas, mae rhai wedi cwestiynu ei rywioldeb.
Ond does dim modd cadarnhau hynny’n iawn, gan i’w deulu ddinistrio ei bapurau personol ar ôl ei farwolaeth.