Mae cofiant newydd i’r bardd o Ryd-ddu yn adrodd, am y tro cyntaf mewn print, hanes ei garwriaeth â meddyg teulu o Drawsfynydd.
Ar ddwy adeg gwahanol yn ystod ei oes, fe roddodd T H Parry Williams ei fryd ar astudio meddygaeth, cam a fyddai wedi’i weld yn gadael ei swydd yn ddarlithydd ac yn Athro yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth.
Yn ôl Dr Bleddyn Owen Huws, awdur Pris Cydwybod: T H Parry-Williams a Chysgod y Rhyfel Mawr, amgylchiadau’n ymwneud â’r Rhyfel Mawr oedd y rheswm yn 1919-20, ond erbyn 1935 mae lle i gredu bod un garwriaeth benodol wedi’i sbarduno i ailafael yn yr uchelgais.
Awydd newid
“Erbyn canol yr 1930au, roedd o’n canlyn y meddyg teulu o Drawsfynydd, Dr Gwen Williams,” meddai Bleddyn Owen Huws wrth golwg360.
“Roedd hi dipyn yn iau nag o, ac roedd hi wedi graddio yn Lerpwl ac wedi dod yn ôl i’w bro enedigol yn feddyg, ac yno y buodd hi nes iddi ymddeol.
“A dw i’n meddwl, tybed a oedd Parry-Williams yr adeg honno yn ystyried mynd i’r coleg meddygol yng Nghaerdydd i hyfforddi’n feddyg er mwyn ymuno â hi yn y practis ym Mhenrhyndeudraeth.
“Ond mi ddaeth y garwriaeth i ben ac wedyn yn 1942, roedd o’n priodi Amy.”
Y diddordeb yn parhau
Er na lwyddodd T H Parry-Williams i wireddu ei freuddwyd i fod yn feddyg, dywed Bleddyn Owen Huws fod ei ddiddordeb yn y maes wedi parhau’n gryf ynddo am flynyddoedd wedyn.
“Erbyn yr Ail Ryfel Byd, roedd o’n dilyn dosbarthiadau’r Groes Goch yn Aberystwyth, a bu’n aelod o ambiwlans y Groes Goch,” meddai.
“Mi roedd o hefyd yn arfer mynd i’r theatr i wylio llawdriniaethau yn yr ysbyty cyffredinol yn Aberystwyth yn ystod yr 1930au a’r 1940au… Mae’n amlwg bod diddordeb yna.”
Mae’r awdur hefyd yn dweud bod modd sylwi ar feddwl y meddyg yng ngweithiau’r bardd a’r llenor, a phe bai wedi parhau â’i uchelgais, pwy a ŵyr sut fydd hynny wedi dylanwadu ymhellach arno, meddai wedyn.
“Be’ rydan ni’n ei weld yn yr ysgrifau ydy’r meddwl dadansoddol yma, ac efallai y byddwn wedi cael mwy o gyfraniadau neu gyfraniadau gwahanol…”
Dyma glip o Bleddyn Owen Huws yn sôn am y cyfnod pan wnaeth T H Parry-Williams roi ei fryd ar astudio meddygaeth am y tro cyntaf, a’r amgylchiadau a arweiniodd at hynny…