Mae Côr Meibion Caron yn chwilio am arweinydd, a hynny ar hast – er mwyn i’r côr allu bod yn rhan o fwrlwm yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron yn 2020.
Mae’r arweinydd cyfredol, Catherine Hughes, yn rhoi’r gorau iddi ar ôl “cyfnod hir a llwyddiannus” o tua ugain mlynedd wrth y llyw.
Petai’r côr meibion yn gallu sicrhau ei barhad drwy ddod o hyd i arweinydd newydd yn ei lle hi, byddai’n dathlu ei ben-blwydd yn hanner cant yn 2019.
“Cyfnod cyffrous”
“Y peth pwysig yw bod y côr wedi cael cyfnod o 50 mlynedd, fwy neu lai, o weithgarwch llwyddiannus iawn yn ardal Tregaron,” meddai Ioan Williams, Lledrod, sy’n aelod ers deng mlynedd.
“R’yn ni’n wynebu cyfnod cyffrous iawn ar drothwy ein pen-blwydd ac ar fin paratoi gogyfer Eisteddfod Genedlaethol Tregaron.
“Mae pawb yn y côr yn frwd iawn i edrych ymlaen. Ond r’yn ni angen un person – dyn neu fenyw – i’n harwain ymlaen i’r dyfodol.”
Does dim ots sut fath o berson fydd yr arweinydd, meddai, ond eu bod nhw’n “frwd, ac yn rhywun sy’n barod i gydweithio gyda ni i wynebu’r dyfodol”.