Mae amgueddfa yn y gogledd yn cynnal arddangosfa o waith dau frawd sy’n trafod yr iaith Gymraeg, hanes ein gwlad a’i gwleidyddiaeth.

 Yn Storiel, Bangor, mae cyfle i weld ffrwyth llafur y cydweithio a fu rhwng y brodyr Peter a Paul Davies, wnaeth ffurfio partneriaeth artistig ‘Beca’ yn 1974.

Ceir y cerflun ‘Welsh Not’ yn Storiel, sef darn o waith gafodd ei gerfio allan o bren trawst rheilffordd gan Paul Davies.

Yn wreiddiol cafodd ei ddangos yn rhan o berfformiad a wnaeth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ym 1977.

Dyma ddarn o gelf sy’n tynnu sylw at hanes yr ymgais i ddwyn gwarth ar blant am siarad Cymraeg.

Beca

Ffurfiwyd Beca gan y brodyr tua 1974, a enwid fel teyrnged i Derfysgoedd Rebeca (1839-1843). Datblygwyd Beca fel grŵp ar gyfer artistiaid i gael cydweithio, gan herio delweddaeth mewn sawl cyfrwng a wnaeth helpu i osod materion Cymreig fel hunaniaeth, iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth ar agenda’r celfyddydau gweledig.