Roedd 7,000 yn fwy o wrandawyr wedi tiwnio i mewn i Radio Cymru yn ystod misoedd Gorffennaf, Awst a Medi nag yn ystod y chwarter cyn hynny, meddai ystadegau.
Yn ol RAJAR, y corff sy’n casglu gwybodaeth am y byd darlledu, mae nifer gwrandawyr yr orsaf Gymraeg wedi codi o 112,000 i 119,000 yn ystod y tri mis diwethaf.
Tra bod y ffigyrau yn cynnwys gwrandawyr gwasanaethau newydd Radio Cymru 2 yn ogystal â’r orsaf draddodiadol, dydi’r nifer o bobol sy’n gwrando ar-alw ar iPlayer, neu’n gwrando ar bodlediadau, ddim yn gynwysiedig.
I fyny ac i lawr
112,000 o bobol oedd yn gwrando ar yr orsaf yn ystod y tri mis rhwng Ebrill, Mai a Mehefin eleni, o gymharu â’r 121,000 oedd yn gwrando yn y chwarter cyn hynny (Ionawr, Chwefror a Mawrth 2018).
Fe ddaw’r canlyniadau diweddaraf wrth i Rhuanedd Richards ddechrau ar ei gwaith yn Olygydd newydd Radio Cymru a gwasanaeth newyddion ar-lein Cymru Fyw. Mae’n olynu Betsan Powys yn y swydd.