Sam Warburton yw capten Cymru
Mae’r cyn-faswr rhyngwladol Jonathan Davies yn dweud fod gan Gymru gyfle gwych i gyrraedd y rownd y pedwar olaf yng Nghwpan Rygbi’r Byd eleni, fel y gwnaethon nhw yng Nghwpan Rygbi cynta’r Byd yn 1987 yn Seland Newydd.

Bydd Cymru yn herio Namibia nesaf, wedi iddyn nhw golli o un pwynt i Dde Affrica yn y gêm gyntaf, ac ennill yn erbyn Samoa yr wythnos ddiwethaf – ac mae Jonathan Davies yn credu bod y chwarae hyd yma yn argolei’n dda iawn i’r tîm cenedlaethol.

Mae disgwsyl i Gymru chwipio Namibia cyn y gêm fawr yn erbyn Ffiji – y tîm wnaeth faeddu Cymru yng Nghwpan y Byd 2007.

Yn ôl Jonathan Davies mae carfan Warren Gatland yn fwy na thebol I dalu’r pwyth yn ôl y tro hwn.

“Mae Cymru wedi chwarae’n dda yn y gystadleuaeth hyd yn hyn,” meddai, “ac rwy’n hyderus y gallwn ni ennill yn gyfforddus yn erbyn Ffiji os defnyddiwn ni’r tactegau iawn.

“Mae’n edrych yn debyg taw Iwerddon fyddwn yn wynebu yn y chwarteri ac mae ’da ni bob siawns o fynd yn ein blaenau i faeddu nhw.”  

Taclo Ffiji gyntaf

Ond yn ôl y cyn-chwaraewr, sydd bellach yn aelod o dim sylwebu Cwpan y Byd S4C, bydd yn rhaid i Gymru ganolbwyntio ar Ffiji gyntaf, cyn meddwl am unrhyw le yn yr wyth olaf.

“Pedair blynedd yn ôl fe gollon ni yn erbyn Ffijj yng Nghwpan y Byd trwy chwarae gêm rhy agored yn eu herbyn,” meddai Jonathan Davies, a fu’n aelod o dîm Cymru yn y twrnament Cwpan y Byd cyntaf erioed yn 1987 yn Seland Newydd.

“Sdim dowt y bydd yn anodd achos bod lot o chwaraewyr Ffiji yn chware yn Seland Newydd, yn nabod y caeau ac yn chwarae’n gorfforol iawn. Ond mae tîm Cymru eleni yn gryfach ac wedi eu paratoi’n well ar gyfer sialens Cwpan Rygbi’r Byd,” ychwanegodd.

Ond er darogan chwarae da gan Gymru, mae’r cyn-chwaraewr yn dal i amau gallu’r tîm i gyrraedd y brig.

“Fi dal yn meddwl taw Seland Newydd fydd yn ennill y tro hwn – fel y gwnaethon nhw yn y gystadleuaeth gyntaf un yn 1987.”