Dean Saunders
Mae cyn-ymosodwr Cymru Dean Saunders wedi rhoi’r gorau i reoli Wrecsam, ac wedi cymryd yr awenau yn Doncaster Rovers.

Er bod y clwb o Loegr yn gorwedd ar waelod y Bencampwriaeth, mae’n gam sylweddol yn uwch o ran safon pêl-droed.

Wedi dechrau rhagorol yng Nghyngrair y Blue Square, mae canlyniadau Wrecsam wedi bod yn fwy cymysg yn ddiweddar.

Gwefan y Daily Mirror oedd y cyntaf i adrodd bod Saunders wedi ymuno gyda Doncaster Rovers, ac roedd gohebydd chwaraeon BBC Sheffield ar Radio Wales y bore yma yn cadarnhau dyfodiad y rheolwr newydd ac yn dweud bod y newyddion wedi synnu pawb.

Rhagor i ddilyn…