Ryan Jones
Fe fydd Ryan Jones ar gael i wynebu Namibia yng Nghwpan Rygbi’r Byd ddydd Llun.

Mae disgwyl y bydd Cymru yn gwneud newidiadau mawr ar gyfer y gêm yn erbyn y tîm sydd isaf ar restr gorauon y byd yr IRB.

Dywedodd hyfforddwr cynorthwyol Cymru, Robert Howley, y bydd y tîm sy’n wynebu Namibia “yn llawer mwy profiadol” na’r cryts ifanc faeddodd Samoa.

Ma hynny’n awrymu y bydd Stephen Jones yn dychwelyd yn y crys rhif 10, a Gethin Jenkins yn chwarae ei gêm lawn gyntaf.

Roedd carfan Cymru wedi disgwyl na fyddai Ryan Jones ar gael nes y gêm yn erbyn Ffiji ar 2 Hydref.

Bydd Cymru yn gobeithio am bwynt bonws yn erbyn Namibia ddydd Llun, a buddugoliaeth dros Ffiji er mwyn gorffen yn ail yn eu grŵp.

Fe fyddwn nhw’n wynebu Iwerddon os ydy’r Gwyddelod, sydd eisoes wedi maeddu Awstralia, yn gallu trechu yr Eidal a Rwsia.