Paul Quinn
Mae Caerdydd wedi sicrhau eu lle ym mhedwaredd rownd y Cwpan Carling wedi buddugoliaeth gyffrous yn erbyn Caerlŷr.
Roedd y sgôr yn 2-2 wedi 90 munud y gêm, a methodd yr un o’r ddau dîm a sgorio yn yr hanner awr o amser ychwanegol.
Aeth y gêm i giciau o’r smotyn felly ac fel lwyddodd y 12 chwaraewr cyntaf i sgorio cyn i Gelson Fernandes fethu cic i Gaerlŷr.
Yr amddiffynnwr Paul Quinn oedd yr arwr i Gaerdydd wrth iddo rwydo’r gic dyngedfennol.
Cystadleuol
Penderfynodd rheolwr Caerlŷr, Sven-Goran Eriksson, i ddewis tîm gwannach na’r arfer ar gyfer y gêm, gan efelychu agwedd nifer o’r prif dimau tuag at y gystadleuaeth.
Er hynny, roedd yn gêm gystadleuol ac ar un pryd roedd yn edrych fel mai Caerlŷr fyddai’n mynd â hi.
Caerdydd aeth ar y blaen wedi 33 munud o’r gêm gyda Don Cowie’n penio i’r rhwyd.
O fewn saith munud roedd Caerlŷr yn gyfartal diolch i Steve Howard a ergydiodd yn isel i sgorio.
Tro’r ymwelwyr oedd hi i fynd ar y blaen wedyn wrth i Lloyd Dyer sgorio wedi 66 munud.
Roedd yn ymddangos y byddai gôl Dyer yn ddigon i gipio’r fuddugoliaeth, ond yna gyda 7 munud o’r 90 yn weddill Rudy Gestede i sgorio gan ddod â’r sgôr yn gyfartal wedi gwaith da gan Darcy Blake.
Er i’r ddau dîm greu cyfleoedd yn ystod yr amser ychwanegol, bu’n rhaid ei setlo â chiciau o’r smotyn.
Sgoriodd Lee Naylor, Rob Earnshaw, Don Cowie, Craig Conway, Filip Kiss a Rudy Gestede oll i Gaerdydd cyn i Quinn setlo’r canlyniad.