Mae naw o bob deg o ddarlithwyr a staff colegau addysg bellach yng Nghymru wedi pleidleisio o blaid cerdded allan tros dâl a llwyth gwaith.
Mae 91% o aelodau Undeb Prifysgol a Choleg (UCU) wedi cefnogi streic tros gyflogau, a 91% hefyd o blaid cynnal streic oherwydd llwyth gwaith.
Fe gododd yr anghydfod ar ôl i gorff ymbarel Colegau Cymru wrthod cais yr undeb am godiad cyflog o 7.5% (neu £1,500 y flwyddyn) gan gynnig codiad o 1% yn ei le.
Gwrthododd Colegau Cymru hefyd i drafod llwyth gwaith darlithwyr a staff wrth i’r ffrae ynglŷn â chyflogau fynd rhagddi.
“Rhwystredigaeth”
“Mae’r canlyniad yn dangos nad yw staff yn barod i sefyll yn ôl a gwylio eu tâl a’u amodau yn dirywio,” meddai Margaret Phelan o’r UCU.
“Nid yw cynnig cyflog 1% yn gwneud dim i fynd i’r afael â’r modd y mae cyflog coleg yn dirywio, ac mae gwrthod mynd i’r afael â phryderon llwyth gwaith wedi gadael yr aeoldau’n rhwystredig iawn.”
Pwy fydd ar streic?
- Coleg Pen-y-bont ar Ogwr a Phencoed
- Coleg Caerdydd a’r Fro
- Coleg Cambria (Llysfasi, Iâl a Glannau Dyfrdwy)
- Coleg Merthyr
- Coleg Gŵyr Abertawe
- Coleg Gwent
- Grŵp Llandrillo Menai
- Coleg y Cymoedd
- Coleg Sir Benfro
- Grŵp Castell-Nedd Port Talbot
- Coleg Sir Gaerfyrddin
- Coleg Ceredigion