Mae Paul Biya wedi ennill yn rhwydd ei seithfed tymor yn arlywydd Cameroon – wedi i gyngor cyfansoddiadol ei benodi, a gwrthod unrhyw ymgeisydd oedd am sefyll yn ei erbyn.
Mae milwyr allan ar y strydoedd yn nifer o ddinasoedd y wlad, wedi i’r llywodraeth hefyd wahardd unrhyw brotestiadau a ralïau.
Paul Biya, 85, ydi arlywydd hynaf cyfandir Affrica. Fe enillodd dros 71% o’r bleidlais yn yr etholiad ar Hydref 7 – ymhell ar y blaen o’r 14% a gafodd ei wrthwynebydd, Maurice Kamto.
Mae’r cyngor cyfansoddiadol wedi galw’r fôt yn un rydd a theg. Ac er bod y tyrnowt yn isel iawn mewn ambell i ardal, mae Paul Biya yn parhau i arwain y wlad fel y mae wedi gwneud ers 1982.
Ond mae sylwebwyr wedi dechrau rhybuddio rhag “trychineb” os na fydd Paul Biya yn dechrau paratoi’r wlad ar gyfer byw hebddo.