Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y dylai’r Gweinidog dros yr Amgylchedd yn y Cynulliad “ystyried ei lle” yn Llywodraeth Cymru.
Daw hyn ar ôl i lythyr a gafodd ei arwyddo gan Hannah Blythyn, sy’n Aelod Cynulliad dros Delyn, nodi ei bod wedi’i “siomi” ynghylch y toriadau a fydd yn cael ei wneud i gyllideb Cyngor Sir Fflint.
Mae’r llythyr at y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies, hefyd yn cynnwys enwau ei chyd-aelod Llafur yn y Cynulliad, Jack Sargeant, a’r Aelodau Seneddol, Mark Tami a David Hanson.
Mae Hannah Blythyn bellach wedi ymddiheuro am y llythyr, ac wedi gofyn am gael tynnu ei henw oddi arno.
Beirniadaeth
Dywed y pedwar gwleidydd y gall Cyngor Sir Fflint wynebu toriad gwerth 0.9% yn ei gyllid yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, o gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol o 0.5%.
Maen nhw hefyd yn galw ar Alun Davies i gynnal adolygiad o’r gefnogaeth ariannol sy’n cael ei rhoi i awdurdodau lleol yng Nghymru.
“Mae’n eithriadol gweld aelod o Lywodraeth Lafur Cymru yn ymosod yn gyhoeddus ar benderfyniad sydd wedi cael ei wneud gan yr union lywodraeth y mae hi’n rhan ohoni, cyn yn gyntaf ymddiswyddo o’r Llywodraeth honno,” meddai Mark Isherwood o’r Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae angen i’r Gweinidog ystyried ei lle.”