Mae ysgrifenyddes mewn milfeddygfa yn Llandysul yn dweud bod y llifogydd dros y penwythnos wedi gadael yr ardal mewn cyflwr “ofnadw”.
Cafodd nifer o ardaloedd yn ne-orllewin Cymru eu taro’n wael yn ystod y diwrnodau diwethaf, wedi i afonydd Tywi, Teifi a’u rhagnentydd orlifo eu glannau o ganlyniad i Storm Callum.
Er bod Milfeddygfa Teifi ym Mhont Tyweli wedi’i lleoli nid nepell o lannau afon Teifi, dywed Elin Davies mai dyma’r tro cyntaf iddi weld dŵr yn dod i mewn i’r adeilad ac amharu ar y gwaith.
“Rydyn ni wedi cael ein fflydo yn y cefen o’r blaen,” meddai wrth golwg360. “Ond dyw e ddim wedi effeithio ar yr adeilad.
“Rydyn ni wedi gallu cario mlaen i weithio o’r blaen, ond dim y tro hwn.”
“Rydyn ni’n brwydro trwyddi”
Er bod y rhan fwyaf o apwyntiadau’r filfeddygfa wedi cael eu gohirio am heddiw, mae milfeddygon yn dal i dderbyn apwyntiadau brys a galwadau allan, meddai’r ysgrifenyddes ymhellach.
Mae milfeddygon o drefi Llanbedr Pont Steffan a Chastellnewydd Emlyn hefyd wedi dod i’r adwy, er mwyn ceisio ysgafnhau’r gwaith i filfeddygon Llandysul.
“Dethon ni fel tîm i fewn fan hyn brynhawn ddoe, ac rydyn ni wedi blitzo’r lle,” meddai Elin Davies.
“Roedd y lle’n ofnadw’, y lle’n llawn mwd a phethe. Ond rydyn ni wedi’i glirio a ni’n gwitho – rydyn ni’n brwydro trwyddi.”