Mae dyn 19 oed wedi gwadu gyrru ei gar yn fwriadol at ddwy ddynes mewn digwyddiad y tu allan i glwb nos yng Nghasnewydd ddechrau’r flwyddyn.
Cafodd y ddwy ddynes ifanc eu hanafu’n ddifrifol yn y digwyddiad y tu allan i glwb y Courtyard ar Ebrill 29.
Mae McCauley Cox wedi’i gyhuddo o geisio gyrru’n fwriadol at ddyn yn ei gerbyd Ford C Max y tu allan i’r clwb nos, gan fethu a gwneud hynny a tharo Sophie Pool ac Emma Nicholls yn lle.
Cefndir
Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod y ddwy ddynes wedi bod yng nghwmni McCauley Cox a’i ffrindiau yn y clwb nos.
Mae’n debyg bod McCauley Cox, 19 oed a’i ddau ffrind, Callum Banton a Benjamin Thomas, wedi cychwyn ffrae gyda grŵp eraill o ddynion am tua 5:30yb.
Mae lluniau oddi ar gamerâu cylch cyfyng yn dangos McCauley Cox yn gadael y lleoliad, cyn dychwelyd gyda’i gar yn ddiweddarach, gan yrru i ganol y dorf a tharo dwy ferch a oedd yn eistedd ar y pafin.
Gadawodd y car y lleoliad yn fuan wedyn, a daeth yr heddlu o hyd i’r car wedi’i losgi mewn man gerllaw.
Cafodd McCauley Cox ei arestio yn ddiweddarach ar ôl iddo gael ei ddarganfod yn cuddio mewn atig tŷ.
Roedd yn gwadu cyflawni’r weithred ar y cychwyn, cyn cyfaddef wedyn mai ef oedd yn gyrru’r car ar adeg y digwyddiad.
Ond mae’n gwadu dau gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.
Mae’r achos llys yn parhau.