Mae bron i £10,000 wedi cael ei godi ar gyfer un busnes yn Nyffryn Teifi a gafodd ei effeithio gan y llifogydd mawr dros y penwythnos.
Mae Canolfan Ganŵio Rhwyfwyr Llandysul ar lannau afon Teifi ym Mhont Tyweli ger Llandysul.
Mae ymhlith nifer o fusnesau a thai yn yr ardal sydd wedi cael eu heffeithio gan Storm Callum dros y penwythnos, wedi i afon Teifi orlifo ei glannau.
Difrod
Yn ôl rheolwyr y ganolfan ganŵio, cafodd degau o ganŵs ac offer eu golchi i ffwrdd gyda llif yr afon, ynghyd â phum trelar ac un sied bren gyfan.
Mae adeiladau’r Ganolfan, a welodd chwe throedfedd o ddŵr ar un adeg, hefyd wedi derbyn tipyn o ddifrod, medden nhw.
Bu degau o wirfoddolwyr yn clirio’r llanast ar ôl i lefel y dŵr ostwng ddoe, ac mae dros £8,500 wedi cael ei godi hyd yn hyn er mwyn helpu’r busnes i brynu offer newydd.
https://www.facebook.com/llandysulpaddlers/posts/2126721337545678
“Diwrnod anodd”
Yn ôl Paul Taylor, un o weithwyr y Ganolfan, mae’r negeseuon y mae wedi’u derbyn gan bobol ers y penwythnos wedi “adnewyddu ei ffydd yn y byd”.
“Roedd ddoe yn ddiwrnod anodd,” meddai ar y wefan gymdeithasol, Facebook.
“Fe welais y ganolfan yr ydw i’n ei garu, yn byw ynddi ac yn anadlu yn cael golchiad go iawn.
“Roedd gweld cryfder y llif yn gafael mewn nifer o bethau da, a’u torri i ffwrdd, yn anodd.
“Fe wnes i braidd gysgu wrth aros am doriad y wawr er mwyn asesu’r difrod…
“Yn anffodus, mae diwrnod o waith gan y nifer o ffrindiau sydd gan ganolfan Padlo Llandysul ond wedi crafu’r wyneb o ran beth sy’n mynd i ddod.”