Fe gipiodd y gyfres Keeping Faith / Un Bore Mercher dair gwobr BAFTA Cymru mewn seremoni yng Nghaerdydd nos Sul (Hydrsf 14).
Fe aeth tlysau yr actores orau i Eve Myles; y gerddoriaeth wreiddiol orau i Amy Wadge a Laurence Love Greed, a’r awdur gorau i Matthew Hall.
Cafodd 22 o wobrau eu cyflwyno gerbron 1,000 o westeion yn Neuadd Dewi Sant, ynghyd â chynulleidfaoedd drwy gyswllt fideo yng Nghaerfyrddin, Caernarfon ac Efrog Newydd.
Enillodd y cyn-chwaraewr rygbi, Gareth Thomas wobr BAFTA Cymru am y tro cyntaf fel cyflwynydd Alfie v Homophobia: Hate in the Beautiful Game.
Ac fe dderbyniodd Jack Rowan un o brif wobrau’r noson am yr Actor Gorau am ei ran yn Born to Kill.
Cyfres S4C, Bang ddaeth i’r brig yn y categori Drama Deledu Orau, a Dafydd Hunt yn fuddugol yn y categori Golygydd Gorau, y trydydd tro iddo ennill gwobr BAFTA Cymru.
Enillwyr eraill
Roedd gwobr hefyd i Siân Jenkins am Ddylunio Gwisgoedd y rhaglen Requiem i’r BBC, ac Euros Lyn yn cipio gwobr am gyfarwyddo cyfres Channel 4, Kiri – ei chweched BAFTA.
Laura Martin-Robinson a Clare Hill ddaeth i’r brig yn y categori Cyfarwyddwr: Ffeithiol, am eu gwaith ar y rhaglen ddogfen Richard and Jaco: Life with Autism, a gipiodd y wobr Dogfen Unigol orau hefyd.
Aeth y wobr am y Gêm Orau i CTRL Movie am Late Shift.
Rhaglen S4C, Cic aeth â’r wobr am y Rhaglen Deledu Orau i Blant, a’r wobr Rhaglen Adloniant Orau yn mynd i Salon (S4C).
Stuart Biddlecombe ddaeth i’r brig – am y tro cyntaf erioed – yn y categori Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen am ei waith ar Craith / Hidden.
Enillodd Huw Talfryn Walters wobr BAFTA Cymru am y trydydd tro am Ffotograffiaeth: Ffeithiol, a hynny am Frank Lloyd Wright: The Man who Built America.
Cipiodd John Markham ail wobr BAFTA Cymru am Sain ar Band Cymru 2018.
Geraint Huw Reynolds gipiodd y wobr am y Ffilm Fer Orau, a hynny am Helfa’r Heli.
Surgeons: At the Edge of Life ddaeth i’r brig yn y categori Cyfres Ffeithiol, a Week in Week Out yn cipio’r wobr Newyddion a Materion Cyfoes.