Fe fydd sêr ffilm a theledu Cymru’n cael eu hanrhydeddu yn ystod noson gwobrau BAFTA Cymru yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd heno (nos Sul, Hydref 14).

Huw Stephens fydd yn arwain y noson am y pedwerydd tro, ac mae disgwyl i’r actor Hollywood, Ioan Gruffudd, fod yn bresennol, ynghyd â nifer o rai eraill sydd wedi’u henwebu, yn cynnwys Jack Rowan, Mark Lewis Jones, Rhodri Meilir, Amanda Mealing, Annes Elwy, Gwyneth Keyworth ac Eve Myles.

Hefyd wedi’u henwebu mae’r cantoresau Amy Wadge a Charlotte Church, y digrifwr a chyflwynydd, Rhod Gilbert; y newyddiadurwraig, Beti George; yr actores, Carys Eleri, a’r cyn-chwaraewr rygbi, Gareth Thomas.

Ymhlith y gwesteion disgwyliedig eraill mae cynhyrchwyr ffilmiau James Bond, Barbara Broccoli a Michael G Wilson; yr actores Elen Rhys; y cyflwynydd teledu Sean Fletcher; yr actorion Jason Hughes, Mandip Gill a Siôn Alun Davies; a’r soprano Elin Manahan Thomas.

Bydd y band Who’s Molly o Abertawe yn perfformio’n fyw ar y noson, gan ganu ‘Welcome to the Good Life’, trac teitl ffilm Tom Cruise, Made in America.

Fe fydd y gyflwynwraig, Mavis Nicholson, a’r dylunydd gwisgoedd, Lindy Hemming, yn derbyn gwobrau arbennig.

Bydd y seremoni’n cael ei darlledu’n fyw ar dudalen Facebook a sianel YouTube BAFTA Cymru.