Fe fydd enillydd Gwobr Iris 2018 yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd yr ŵyl ffilmiau LGBT+ yng Nghaerdydd ddydd Sul.
Dyma benllanw’r digwyddiad a ddechreuodd ddydd Mawrth yn Cineworld yn y brifddinas.
Mae 35 o ffilmiau byrion o 20 o wledydd yn cystadlu am y brif wobr, a’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn y Tramshed.
Bydd yr enillydd yn derbyn £30,000 a chefnogaeth gan Sefydliad Michael Bishop.
Dyma’r unig wobr ffilmiau byrion LGBT+ yn y byd sy’n galluogi’r enillydd i greu ffilm newydd.
Y beirniaid a’r rhestr fer
Ymhlith y beirniaid ar gyfer y wobr eleni mae’r cyfieithydd Aled Islwyn, y gantores Heather Small ac enillydd y wobr y llynedd, Mikael Bundsen.
Dywedodd hi, “Fe wnes i neidio ar y cyfle i gymryd rhan yn Iris – mae’n ddathliad hyfryd a bywiog o amrywiaeth, cynhwysedd a chreadigrwydd, a dw i’n edrych ymlaen at ymdrochi yn yr amrywiaeth o ddoniau dw i’n gwybod fydd yn esgor ar drafodaeth a dadl, ac a fydd yn gwneud beirniadu’n broses anodd dros ben.”
Mae modd gweld y rhestr fer ar wefan yr ŵyl.
Mae’r digwyddiad yn dechrau am 12 o’r gloch, a’r enillydd yn cael ei gyhoeddi am 4 o’r gloch.