Daeth cadarnhad mai Llywydd y Cynulliad ac Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones yw Cadeirydd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020, a fydd yn cael ei chynnal yn Nhregaron.

Y cyfarwyddwr cysylltiadau cyhoeddus, Deian Creunant yw’r Is-gadeirydd, ac mae cyn-Brif Weithredwr Cyngor Ceredigion, Bronwen Morgan wedi’i henwi’n Ysgrifennydd.

Cafodd y penodiadau eu cyhoeddi mewn cyfarfod yn Ysgol Uwchradd Aberaeron fore heddiw.

Mae Plaid Cymru Llambed wedi troi at wefan gymdeithasol Twitter i longyfarch Elin Jones.