Mae Heledd Gwyndaf wedi cael dirwy o £170 am wrthod talu ffi’r drwydded deledu.
Aeth cadeirydd Cymdeithas yr Iaith gerbron ynadon Aberystwyth fore heddiw (dydd Mercher, Hydref 10) am ei rhan mewn ymgyrch gan 70 o bobol tros ddatganoli darlledu i Gymru.
Dyma achos llys cyntaf yr ymgyrch, ar ôl i Gymdeithas yr Iaith benderfynu yr llynedd mai gwrthod talu y ffi drwydded oedd y ffordd ymlaen er mwyn rhoi pwysau ar San Steffan i ddatganoli’r pwerau i Fae Caerdydd.
“Brwydr dros briod iaith Cymru”
“Hoffwn i dalu deyrnged i’r holl bobol sy’n cefnogi’r ymgyrch yma, yn enwedig y y bobl sy’n rhan o’r boicot,” meddai Heledd Gwyndaf heddiw.
“Mae’r frwydr hon yn frwydr dros briod iaith Cymru, dros ddemocratiaeth pobol Cymru a thros ein rhyddid ni fel cenedl.
“Er yr holl ddatblygiadau yn y cyfryngau ac yn y maes digidol ers sefydlu S4C, dim ond un sianel deledu gyflawn Gymraeg sydd gyda ni. Bach iawn o ddeunydd ar lein ac ar lwyfannau eraill sydd i ga’l yn Gymraeg.
“Yn ogystal â hyn mae’r wasg Seisnig yn fygythiad enfawr i’n democratiaeth ni wrth fethu cynnal trafodaeth Gymreig a chan gamarwain pobol drwy gyfeirio at system addysg neu wasanaeth iechyd genedlaethol pan mai gwasanaethau Lloegr yn unig sydd dan sylw,” meddai wedyn.
“Dydyn ni yma yng Nghymru heb gliw pa gyfrifoldeb sydd yn gorwedd ymhle. Shwt yn y byd mai democratiaeth yw hyn?”