Mae pennaeth cwmni teledu Cwmni Da yn bwriadu troi’r cwmni yn ymddiriedolaeth ar batrwm siopau John Lewis a’i drosglwyddo i ddwylo ei staff.
Bydd y cynllun yn gweld y cwmni teledu yng Nghaernarfon, sydd â throsiant o £5m y flwyddyn, yn cael ei droi’n ‘Ymddiriedolaeth ym Mherchnogaeth y Gweithwyr’. Dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd yn y diwydiant teledu yng ngwledydd Prydain.
Canolfan Cydweithredol Cymru sy’n gyfrifol am y prosiect trosglwyddo, ac mae’n derbyn cyngor cyfreithiol gan Geldards yng Nghaerdydd.
Fel rhan o gynllun pum mlynedd, bydd y pennaeth, Dylan Huws, yn gwerthu ei gyfranddaliadau i’r ymddiriedolaeth.
Hanes Cwmni Da
Mae’r cwmni teledu, a gafodd ei sefydlu yn 1996, yn cyflogi 50 aelod o staff ac mae ei gartref yn Doc Fictoria, Caernarfon.
Mae gan y cwmni hanes o greu rhaglenni ffeithiol, adloniant, drama a rhaglenni i blant, yn bennaf yn y Gymraeg ar gyfer S4C. Ymhlith ei raglenni mwyaf llwyddiannus mae Fferm Ffactor, Noson Lawen, Deian a Loli, Dim Byd a Ffit Cymru.
Prosiect diweddara’r cwmni yw rhaglen ar y cyd â chwmni annibynnol MacTV yn yr Alban a LIC, y cwmni cynhyrchu annibynnol mwyaf yn Tsieina, ar gyfres newydd am y Llanw ar draws y byd.
Dylan Huws yw unig berchennog y cwmni ers mis Rhagfyr y llynedd, yn dilyn penderfyniad Neville Hughes ac Ifor ap Glyn i gamu o’r neilltu, er bod y ddau yn parhau i gydweithio â’r cwmni, ac fe fydd yn parhau’n rheolwr-gyfarwyddwr am dair blynedd arall.
Yn ymuno â bwrdd y cwmni mae’r pennaeth cyllid cynhyrchu, Bethan Griffiths, a’r ymgynghorydd ariannol, Alun Lewis, ac mae tri ymddiriedolwr am gael eu penodi.
Aros yn nwylo Cymry
“Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae cyfuno yn y sector cynhyrchu annibynnol wedi gweld nifer o gwmnïau o Gymru yn cael eu gwerthu i sefydliadau mwy, ac mae hynny’n golygu’n amlach na pheidio nad ydi’r cwmnïau hynny bellach mewn perchenogaeth Gymreig,” meddai Dylan Huws.
“Byddai’n hawdd gwerthu Cwmni Da ac yna camu i ffwrdd, ond faswn i ddim yn hoffi meddwl bod y bobol dw i’n credu ynddyn nhw ac yn eu parchu yn colli eu swyddi’n sydyn oherwydd bod perchnogion newydd wedi dod i mewn ac eisiau gwneud rhywbeth gwahanol.
“Felly mi es i lawr y llwybr o geisio edrych ar fodelau a strwythurau cwmni gwahanol, ac un y mae pawb yn ei adnabod ydi John Lewis a’i Bartneriaid.
“Mae Creu Ymddiriedolaeth ym Mherchnogaeth y Gweithwyr yn teimlo fel asiad perffaith, oherwydd dw i’n credu’n angerddol bod y staff yn rhan allweddol o’r busnes ac y gall pawb elwa o’u hymdrechion.”