Fe fydd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Heledd Gwyndaf yn mynd gerbron ynadon yn Aberystwyth heddiw (dydd Mercher, Hydref 12), am wrthod talu am ei thrwydded deledu.
Mae hi’n un o 70 o bobol sy’n ymgyrchu tros ddatganoli darlledu i Gymru, a hi yw’r gyntaf i fynd o flaen ei gwell.
Y llynedd, fe gyhoeddodd y Gymdeithas ddogfen Datganoli Darlledu i Gymru yn amlinellu sut y dylid mynd ati i alw am ragor o bwerau tros ddarlledu.
Dywed y ddogfen fod modd denu mwy o gyllid i Gymru wrth ddatganoli’r ffi drwydded a threth, thrwy osod ardoll ar gwmnïau mawr sy’n gwneud arian o weithredu yng Nghymru, gan gynnwys Netflix, YouTube a Facebook.
Papur polisi
Yn ôl y papur polisi Datganoli Darlledu i Gymru, byddai datganoli yn cynnal tair gorsaf radio a thair sianel deledu Gymraeg. Byddai cynnwys Cymraeg a Chymreig yn derbyn cyllid o £250m.