Mae caffi a bar yng Nghaerdydd wedi derbyn gwobr gan yr elusen, Cylcling UK, am fod y ganolfan orau yng Nghymru ar gyfer y gymuned seiclo.
Mae caffi ‘I Want To Ride My Bike’ wedi’i leoli yng nghanol y brifddinas, ac fe agorodd ei ddrysau am y tro cyntaf yn ystod cystadleuaeth y Tour de France fis Gorffennaf y llynedd.
Nod y lleoliad yw darparu cwrw a bwyd i gwsmeriaid, yn ogystal â sgriniau teledu mawr sy’n darlledu unrhyw gystadlaethau seiclo.
“Dydyn ni ddim yn gaffi sydd wedi’i leoli yng nghefn gwlad, ond yn gaffi sydd ynghanol y ddinas ac sy’n boblogaidd gyda myfyrwyr o’r brifysgol, grwpiau ymgyrchu lleol, a phobol sy’n gweithio yn y Cynulliad neu’r Amgueddfa Genedlaethol gerllaw,” meddai perchennog y caffi, Jonathan Wright.
“Ein nod yw annog mwy o bobol i adael eu ceir adref a seiclo i ganol dinas Caerdydd. Rydym hefyd yn ganolfan wybodaeth am y byd seiclo.”
Mae’r caffi wedi ennill y wobr am y caffi seiclo gorau yng nghategori Cymru, tra bo pedwar caffi arall wedi derbyn gwobrau yng nghategorïau’r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.