Fe allai clwb Ynysddu Welfare gael eu cosbi yn dilyn gêm gyntaf eu tîm ieuenctid dros y penwythnos.

Fe ddaeth y tîm i fodolaeth yr wythnos ddiwethaf ar ôl iddyn nhw gael eu cynnwys drwy ddamwain yng nghystadleuaeth Cwpan Ieuenctid Cymru.

Ond yn dilyn eu gêm gyntaf yn erbyn Llansawel ddydd Sul (Hydref 7), lle maen nhw wedi sicrhau lle yn ail rownd y gystadleuaeth, fe all y clwb wynebu diryw yn dilyn ymddygiad rhai cefnogwyr.

Yn ôl adroddiadau, mae’n debyg bod rhai wedi ymyrryd â’r gêm yn ystod eu munudau olaf drwy redeg ar y maes, yn ogystal â gollwng bomiau mwg cyn ac yn ystod y chwarae.

Mae llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n dweud eu bod nhw’n aros am adroddiad dyfarnwr y gêm cyn cymryd camau pellach.

Ond mae rheolwr y clwb, Ben Murphy, wedi wfftio’r honiadau, gan ddweud bod y diwrnod y gêm wedi bod yn un ag “awyrgylch anhygoel” iddo.

Mae disgwyl i Ynysddu herio Llanelli yn yr ail rownd ar Dachwedd 4.