Mae pedwerydd person wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth dyn ym Mhentywyn ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.
Bu farw Simon Clark, 54, ym Mharc Carafanau Grove ddydd Gwener (Medi 28).
Erbyn hyn, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod nhw wedi cymryd dynes 52 oed i’r ddalfa ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
Mae dau berson arall eisoes yn y ddalfa, gan gynnwys dyn 40 oed sy’n cael ei amau o lofruddio, a dynes 46 oed sy’n cael ei hamau o gynorthwyo troseddwr.
Mae’r dyn 48 oed, a gafodd ei arestio yn fuan wedi’r digwyddiad ddydd Gwener, bellach wedi cael ei ryddhau.