Mae Cyngor Ceredigion yn dysgu pobol sut i ddiogelu eu hunain rhag sgamiau a thwyll ariannol.

Mae’r cyngor sir bellach yn cael ei gydnabod yn sefydliad ‘Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau’, ac felly’n rhan o fenter gan Dîm Sgamiau Safonau Masnach Cenedlaethol sydd â’r bwriad o ddiogelu a rhwystro pobol rhag dioddef o wahanol sgamiau.

Yn ogystal â chynrychiolwyr o Safonau Masnach Cenedlaethol a Chyngor Sir Ceredigion, roedd y digwyddiad yn Y Bandstand yn Aberystwyth ddoe hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o fanc Natwest a Heddlu Dyfed-Powys.

Yn ôl y Cynghorydd Gareth Lloyd, aelod o’r Cabinet dros Wasanaethau Diogelu’r Cyhoedd, mae cael ei gydnabod yn sefydliad ‘Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau’ yn galluogi’r awdurdod lleol i “daclo’r mater yma [o sgamio] yn lleol.”

“Dim rheswm”

“Yn aml, mae sgamiau drwy’r post, dros y ffôn ac ar garreg y drws wedi’u hanelu’n benodol at gwsmeriaid difreintiedig neu’r rheiny sy’n profi cyfnodau bregus,” meddai.

“Does dim rheswm i bobol fod a chywilydd os eu bod wedi eu heffeithio gan sgamio.

“Y peth pwysig i wneud yw siarad â rhywun, adrodd y mater a chael yr help a’r cyngor cywir.”