Ryan Roberts o Lanwddyn oedd y llanc 18 oed fu farw mewn damwain draffig ger Llyn Efyrnwy ym Mhowys.
Roedd yn dychwelyd i’w gartref yn oriau mân fore Sul diwethaf, ar ôl noson allan yng Nghroesoswallt, pan aeth ei gar oddi ar y lôn a tharo coeden.
Bu farw yn y fan a’r lle, lai na milltir o’i gartref.
130 yn cofio
Roedd Ryan Roberts yn ail fab i John Roberts sy’n Rheolwr Chwaraeon a Saethu ar Ystâd Llyn Fyrnwy.
Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd ei deulu bod Ryan Roberts wedi astudio peirianneg yn y coleg, cyn cael ei ddenu yn ôl i weithio yn y byd saethu anifeiliaid.
“Roedd ganddo gylch eang o ffrindiau,” meddai ei deulu, “a daeth rhyw 130 ohonyn nhw i noson goffa anffurfiol dau ddiwrnod wedi’r ddamwain. Ac roedd hyn yn gysur mawr i’r teulu.”