Yn dilyn wythnosau o ymgyrchu, mae aelodau Plaid Cymru wedi ethol Adam Price i’w harwain.

Cafodd enillydd y ras ei gyhoeddi mewn digwyddiad yng ngwesty’r Novotel yng Nghaerdydd.

Dechreuodd y gystadleuaeth, mewn gwirionedd, ym mis Mehefin gyda thri Aelod Cynulliad Plaid Cymru yn galw am her i’w harweinydd, Leanne Wood.

Ym mis Gorffennaf camodd Rhun ap Iorwerth ac Adam Price ymlaen â thaflu eu henwau i’r het.

Dros y misoedd diwethaf bu trafod brwd ar rinweddau’r tri ymgeisydd.

A bellach mae Adam Price wedi dod i’r brig gyda mwyafrif o aelodau Plaid Cymru yn ei ffafrio.

Anerchiad cynta’r Arweinydd newydd

“Heddiw rydym wedi cymryd cam cyntaf ar lwybr newydd,” meddai Adam Price yn dilyn ei fuddugoliaeth.

“Dw i’n arweinydd cynhwysol a modern ar gyfer Cymru fodern a chynhwysol.

“Mae’r etholiad yma yn dangos ein bod yn barod i gredu unwaith eto.

“Mae’n bryd i ni danio dychymyg y genedl.”

Patrwm y pleidleisio

Mae gan Blaid Cymru tua 8,000 o aelodau, ac roedd 71% wedi bwrw pleidlais yn yr etholiad arweinyddol.

Rownd gyntaf

Adam Price – 2,863 (49.7%)

Rhun ap Iorwerth – 1,613 (28%)

Leanne Wood – 1,286 (22.3%)

Neb yn cael tros 50% o’r bleidlais, felly ail rownd o gyfrif ‘ail bleidleisiau’…

Yr ail rownd

Adam Price – 3,481 (64%)

Rhun ap Iorwerth – 1,961 (36%)