Dywed Carwyn Jones ei fod yn gobeithio y bydd Eluned Morgan ymhlith yr ymgeiswyr y bydd aelodau Llafur yn cael dewis ohonyn nhw i’w olynu fel Prif Weinidog Cymru.
Ar hyn o bryd mae’r Gweinidog dros y Gymraeg un enwebiad yn fyr o’r hawl i gael ymddangos ar y papur pleidleisio i holl aelodau Llafur Cymru.
“Byddai’n beth rhyfedd iawn i aelodau Llafur Cymru gael papur pleidleisio heb ddim ond dynion arno,” meddai Carwyn Jones ar raglen Sunday Politics heddiw.
“Dw i’n gobeithio y byddwn wedi sicrhau dros yr ychydig wythnosau nesaf fod menyw arno hefyd.”
Un ffordd o roi cyfle i Eluned Morgan fyddai i Carwyn Jones ei hun ei henwebu, gan fod yr ACau eraill eisoes wedi enwebu un o’r lleill.
Er nad oedd Carwyn Jones yn fodlon addo gwneud hynny, mae’n ymddangos nad yw’n cau’r drws yn bendant ar y syniad.
“Fe fyddai hynny’n un ffordd efallai, ond mae ffyrdd eraill hefyd, er enghraifft, pe bai un o’r aelodau eraill yn newid eu henwebiad,” meddai.
“Dw i’n hollol glir na fyddaf i’n cefnogi unrhyw un o’r ymgeiswyr fy hun.
“Ond gan mai Eluned Morgan yw’r unig fenyw sy’n sefyll, dw i’n gobeithio’n fawr y byddwn yn sicrhau lle iddi ar y papur pleidleisio.”
Refferendwm? Efallai
Dywedodd Carwyn Jones fod ganddo feddwl agored ynglŷn â refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd.
“Mae’n dibynnu o dan ba amgylchiadau,” meddai.
“Dw i ddim yn erbyn refferendwm, ond mae gen i rywfaint o bryderon ein bod braidd yn agos at bleidlais 2016 i fynd yn ôl i ofyn yr un cwestiwn.
“Os na fydd y senedd yn barod i gefnogi unrhyw gytundeb â’r Undeb Ewropeaidd, yna fe ddylid cael etholiad cyffredinol.
“Ond pe bai canlyniad yr etholiad hwnnw wedyn yn methu â datrys y sefyllfa, mae’n amlwg na fyddai unrhyw ddewis wedyn ond refferendwm arall.”