Mae un o’r rheiny oedd yn cystadlu am deitl Dysgwr y Flwyddyn eleni yn dweud bod y Ganolfan iaith yn Nant Gwrtheyrn wedi sicrhau ei fod yn gallu byw ei fywyd yn ddwyieithog “am byth”.

Daw Steve Dimmick o Gaerdydd, ac mae’n gyfarwyddwr ar gwmni technolegol o’r enw Doopoll.

Fe ddechreuodd ddysgu Cymraeg mewn dosbarthiadau nos yn Llundain a Chaerdydd, ond oherwydd ei fod yn “siomedig” gyda’i gynnydd yn y rheiny, meddai, fe benderfynodd fynd i Nant Gwrtheyrn am wythnos yn 2014.

“Roedd y profiad yn anhygoel o dda,” meddai wrth golwg360. “Fe wnes  i fwynhau’r dosbarthau ac hefyd pa mor gyflym wyt ti’n teimlo dy hun yn symud ymlaen.

“Hefyd, fe wnes i hoffi’r ffaith bod pobol yn gorfodi ni i siarad ac mae’n gyfle i siarad bron iawn bob awr o’r dydd.”