Mae cyn-Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru yn dweud ei fod yn “falch iawn” o’i gysylltiad â Chanolfan Nant Gwrtheyrn.
Daw Clive Wolfendale yn wreiddiol o Fanceinion, a phan ymunodd â Heddlu Gogledd Cymru yn 2001 yn un o’r prif swyddogion – yn gweithio’n agos gyda’r cyn-Brif Gopyn, Richard Brumstrom -bu’n rhaid iddo dreulio cyfnod yn dysgu Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn.
Dros y blynyddoedd, mae wedi parhau i ddysgu’r iaith, gan ei defnyddio yn ei waith bob dydd yn brif weithredwr ar yr elusen CAIS sy’n helpu pobol sy’n gaeth i alcohol a chyffuriau a phethau eraill.
Yn 2003 fe gafodd ei benodi ar Fwrdd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, ac mae bellach yn drysorydd arni.
“Yn y dyfodol, fe hoffwn weld Nant Gwrtheyrn yn parhau fel calon yr iaith Gymraeg, calon gogledd Cymru, ac yn galon i ni,” meddai Clive Wolfendale.