Mae un o golofnwyr cylchgrawn Golwg wedi lambastio’r rhai sy’n gwersylla yn Maes B yr Eisteddfod Genedlaethol, heb fynd â’u cyfarpar campio efo nhw.

Yn ôl Gwilym Owen mae’r bobol ifanc yma ar fai am adael offer gwersylla ar ôl, yn hytrach na’i bacio a’i gadw ar gyfer y trip campio nesaf.

Meddai’r colofnydd:

‘A dyna ichi stori drist ydy honno sy’n digwydd yn flynyddol ar faes pebyll Maes B.

‘Bellach, yn ôl tystiolaeth ysgrifau yn y cylchgrawn Barn… criw ifanc hynod o oludog a gwastraffus sy’n mynychu’r maes hwn.

‘Y llynedd ym Modedern ac eleni yng Nghaerdydd roedd y criw cyfoethog Cymraeg yma yn gallu fforddio gadael gwerth cannoedd o bunnau o offer gwersylla, dillad a bwyd ar hyd a lled y maes ar ddiwedd yr wythnos.

‘Casglwyd gwerth miloedd o bunnau fel sbwriel ar Ynys Môn tra bu gwirfoddolwyr yn casglu’r gwastraff costus yng Nghaerdydd i ddarparu cysur i’r anffodusion sy’n cysgu ar strydoedd y Brifddinas.’

Hefyd yn y cylchgrawn, Gwilym Owen yn galw ar yr Eisteddfod Genedlaethol i wneud mwy i ddenu’r dosbarth gweithiol Cymraeg