Mae’r cyflwynydd radio, Chris Evans, wedi cyhoeddi bod ei wraig wedi rhoi genedigaeth i fab a merch neithiwr – a’u bod wedi enwi’r efeilliaid ‘Ping’ a ‘Pong’.
Fe gafodd y newydd ei dorri yn fyw ar Radio 2 fore heddiw (dydd Iau, Medi 20).
Y gred ydi fod y ddau faban wedi cyrraedd yn hwyr neithiwr, gyda Ping yn ymddangos yn gyntaf am ddeng munud wedi 10, a Pong 12 munud yn ddiweddarach.
Roedd beichiogrwydd ei wraig yn un o’r rhesymau pam fod Chris Evans wedi penderfynu gadael ei swydd yn gyflwynydd y rhaglen frecwast ar BBC Radio 2.
Mae hynny, a’r ffaith y byddai’n ymuno â Virgin Radio er mwyn cyflwyno’r rhaglen frecwast yno.
Mae Chris Evans wedi cyflwyno’r rhaglen i’r BBC ers olynu’r diweddar Terry Wogan yn 2010, ac fe fydd yn ei dro’n cael ei olynu gan Zoe Ball.