Mae un o gyn-ohebwyr cylchgrawn Golwg yn dweud bod yna ddiffyg sylw i’r dosbarth gweithiol erbyn heddiw.
Yn y rhifyn cyntaf o Golwg a gyhoeddwyd ar Fedi 8, 1988, fe ymddangosodd stori gan Martin Huws ynglŷn â Charnifal Tre-biwt yng Nghaerdydd.
Mae’r stori yn rhoi cip ar y gymuned aml-ddiwylliannol yn ardal dociau’r brifddinas, a oedd ar y pryd ar fin cael ei datblygu.
Ond 30 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r newyddiadurwr a’r undebwr llafur yn teimlo bod llais cymunedau fel hyn yng Nghymru yn cael ei anwybyddu.
“Dim cymaint o sylw”
“Dw i’n cofio holi’r cyfarwyddwr Karl Francis, roedd e wastad yn foi dadleuol,” meddai Martin Huws wrth golwg360.
“Roedd e’n dweud bod pobol y Cymoedd ddim yn cael eu cynrychioli ar y cyfrynge. Roedd rhaid iddyn nhw droi at Coronation Street ac ati.
“Dw i’n cofio, yn yr wythdegau, roedd yna ymgyrch o ryw fath i sefydlu sianel ar gyfer y di-Gymraeg yng Nghymru. Digwyddodd dim byd yn y diwedd…
“Does dim cymaint o sylw i’r dosbarth gweithiol yn gyffredinol. Ond ar y llaw arall, mae’n rhaid cofio pwy yw’r gynulleidfa ac mae’n rhaid darparu ar eu cyfer nhw.”
Diffyg “straeon ymchwiliadol”
Wrth ystyried sut mae cylchgrawn Golwg wedi datblygu dros y blynyddoedd, mae yna ddiffyg “straeon ymchwiliadol” sy’n apelio at bobol go iawn ar hyn o bryd, meddai Martin Huws.
“Does dim cymaint o straeon felly, hyd y gwela i,” meddai wedyn. “Mae yna fwy o stwff mwy meddal.
“Ond cofiwch, mae angen newyddiadurwyr ymchwiliadol, ac mae angen buddsoddi o ran amser. Mae rhai ymchwiliade yn gallu hala wythnose neu fisoedd i’w gwneud.
“Mae lot yn dibynnu ar faint o arian sydd gyda chi, wrth gwrs.”