Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi dweud nad ydyn nhw am wneud “sylw pellach”, ar ôl i un o olygyddion y cylchgrawn alw arnyn nhw i ymddiheuro am sylw dadleuol ar lwyfan y brifwyl eleni.
Yn ôl Nia Edwards-Behi, un o olygyddion y Wales Arts Review, fe ddylai Cyngor yr Eisteddfod “gondemnio” sylw a wnaeth Eifion Lloyd Jones ar lwyfan y brifwyl yng Nghaerdydd eleni.
Roedd Llywydd y Llys wedi cyfeirio at “anwariaid” a oedd yn byw yn Uganda, Abergele a gogledd Lloegr mewn seremoni yn cyflwyno arweinydd Cymru a’r Byd, Iori Roberts, yn ystod y gymanfa ganu ar Awst 5.
Cyhoeddodd Llywydd y Llys bedwar ymddiheuriad unigol am y sylw, ond wnaeth hynny ddim plesio pawb.
“Ni ddylai fod yn ddiwedd ar y drafodaeth”
“Dw i ddim yn credu y dylai’r ymddiheuriad hwn adael i [Eifion Lloyd] Jones a’r Eisteddfod fynd yn rhydd, ac ni ddylai fod yn ddiwedd ar y drafodaeth,” meddai Nia Edwards-Behi yn y Wales Arts Review.
“Dylai derbyn yr ymddiheuriad, os rhywbeth, fod yn arwydd i symud tuag at lwyfan newydd sy’n delio â’r hyn a ddigwyddodd; nid anghofio a symud ymlaen.
“I ŵyl sy’n ymdrechu i ddathlu ei digwyddiad fel rhai agored a chynhwysol, mae’n rhaid iddi wneud y mwyaf i gondemnio’r defnydd o iaith hiliol ar y llwyfan, a phellhau ei hun oddi ar ddigwyddiad difeddwl a ffwrdd-â-hi o’r fath.”
Ymateb y Steddfod
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol: “Rydan ni wedi ymbellhau oddi wrth y sylwadau yn ystod yr wythnos. Rydan ni hefyd wedi dweud mai datganiad personol oedd o, ac rydan ni wedi ymateb i gwynion yn uniongyrchol am y peth, felly dydan ni ddim am wneud sylw pellach am y peth, ar hyn o bryd.”
Dywedodd Eifion Lloyd Jones nad oes ganddo ddim byd ychwanegol i’w ddweud am y mater, ac mae’n ychwanegu mai “dyfodol yr Eisteddfod sy’n bwysig bellach”.
Y cefndir
Fe gyhoeddodd Eifion Lloyd Jones bedwar ymddiheuriad unigol yn dilyn ei sylw yn ystod Cymanfa Ganu’r Brifwyl.
Y tro cynta’, fe ddywedodd fod “popeth wedi’i gymryd allan ‘i gyd-destun”, ac nad oedd yn “fwriad” ganddo i “dramgwyddo neb”.
Yn dilyn hynny fe gyhoeddodd ddau ymddiheuriad ychwanegol yn dweud ei fod yn “wirioneddol ddrwg” os oedd unrhyw un wedi “camddehongli” ei eiriau.
Ond erbyn dechrau’r wythnos ganlynol, cyhoeddodd ei fod yn “ymddiheuro’n llawn a diamod” am y sylw.